#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-721

Teitl y ddeiseb: Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder 30 milltir yr awr drwy bentref Penegoes (o arwydd pentref Penegoes o gyfeiriad Machynlleth, i ochr arall mynedfa newydd arfaethedig Maes Carafannau Maesperthi) ar yr A489 tuag at y Drenewydd; a therfyn cyflymder 40 milltir yr awr o Fachynlleth i Benegoes.

Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A489.  Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yw gwaith cynnal a chadw'r rhwydwaith.

Mae gwefan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn disgrifio ffordd yr A489 fel ffordd strategol o’r dwyrain i’r gorllewin sydd o bwys yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae’r ffordd yn estyn o’r A483 yn y Drenewydd hyd at Fachynlleth, ac fe’i rhennir yn ddwy ran ger yr A470. Mae’r rhan ddeheuol yn cysylltu’r A483 yn y Drenewydd â’r A470 yng Nghaersws. Mae’r rhan ogleddol yn cysylltu’r A470 yng Nglantwymyn â’r A487 ym Machynlleth. Priffyrdd sengl yw’r ddwy ran, ac mae eu lled a’u safon yn amrywio.

Â’r wefan ymlaen i ddweud mai 8.5 cilomedr o hyd (5 milltir) yw rhan ddeheuol cefnffordd yr A489, ac ei bod yn cysylltu’r Drenewydd a Chaersws. Mae rhan ogleddol cefnffordd yr A489 yn 9 cilomedr o hyd (5.5 milltir) ac mae’n cysylltu Glantwymyn a Machynlleth. Gellir gweld map o holl rwydwaith cefnffyrdd Cymru yma.

Mae'r Sefydliad Diogelwch Ffyrdd yn elusen ar gyfer lleihau nifer yr anafiadau ar ffyrdd y DU, ac mae'n bartner i Raglen Asesu Ffyrdd Ewrop, sy'n gymdeithas ddi-elw i hybu ffyrdd sy'n fwy diogel.  Mae'r Sefydliad Diogelwch Ffyrdd yn cyhoeddi canlyniadau blynyddol Prydain yn yr asesiad a gynhelir gan Raglen Asesu Ffyrdd Ewrop. Mae'r Rhaglen yn asesu diogelwch ffyrdd Prydain, ac yn darparu map risg sy'n asesu diogelwch. Gellir gweld adroddiadau blynyddoedd blaenorol ar gyfer 2013, 2014 a 2015ar wefan y Sefydliad.

Mae'r mapiau risg yn rhoi gradd allan o bum gwahanol lefel o risg, gan ddangos y risg ystadegol o farwolaeth neu anaf difrifol ar y ffordd. Mae'r Sefydliad yn disgrifio'r fethodoleg a ddefnyddir fel a ganlyn:

The risk is calculated by comparing the frequency of road crashes resulting in death and serious injury on every stretch of road with how much traffic each road is carrying. For example, if there are 20 crashes on a road carrying 10,000 vehicles a day, the risk is 10 times higher than if the road has the same number of collisions but carries 100,000 vehicles.

Yn 2013, aseswyd bod y risg ar gyfer rhan ogleddol yr A489 (o'r A470 yng Nglantwymyn hyd at yr A487 ym Machynlleth) yn isel i ganolig (yn seiliedig ar ddata 2007-2011). Yn 2014, bu i'r risg gynyddu i risg ganolig (data 2010-2012) ac roedd yr asesiad risg diweddaraf yn 2015 yn nodi bod risg y ffordd yn ganolig i uchel (data 2011-2013).

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn nodi targedau diogelwch ffyrdd y Llywodraeth a'r camau gweithredu cysylltiedig.  Mae Llywodraeth Cymru am weld yr ystadegau canlynol ar gyfer holl ffyrdd Cymru erbyn 2020, o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008:

§    40 y cant yn llai yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

§    25 y cant yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

§    40 y cant yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

 

Mae'r fframwaith yn nodi grwpiau sy'n agored i niwed, ac mae'n ystyried beth sy'n achosi damweiniau, gan greu ffyrdd sy'n fwy diogel. Mae hefyd yn nodi'r trefniadau o ran dull a threfniadau llywodraethu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r terfynau cyflymder ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd, gan ystyried natur y ffordd, diogelwch y ffordd a'r defnydd a wneir o'r ffordd gan y gymuned, yn unol â'r canllawiau ar gyfer Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru (PDF 197kb). Defnyddir y canllawiau hyn i bennu'r holl derfynau cyflymder lleol ar gefnffyrdd a ffyrdd gwledig (heb gynnwys traffyrdd), boed yn briffordd sengl neu'n briffordd ddwbl mewn ardaloedd dinesig ac ardaloedd gwledig fel ei gilydd.

Mae gwefan yr Adolygiad o Ddiogelwch Cefnffyrdd yn nodi manylion am ganlyniadau'r adolygiad ar derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Nodir ar y wefan fod diogelwch ar gefnffyrdd yn cael ei fonitro'n barhaus i chwilio am unrhyw welliannau posibl y gellir eu gwneud, gan adolygu terfynau cyflymder yn gyson.

Yn yr adolygiad hwn, mae'r rhan o'r gefnffordd A489 y cyfeirir ati yn y ddeiseb yn cynnwys tair rhan wahanol, sef:

·         Dechrau'r parth 30mya ym Machynlleth hyd at gyffordd y Cloc ar yr A489;

·         Diwedd y parth 40mya ym Mhenegoes hyd at ddechrau'r parth 30mya ym Machynlleth ar yr A489; a

·         Dechrau'r parth 40mya ym Mhenegoes hyd at ddiwedd y parth hwnnw ar yr A489.

Ffigwr 1. Map yn dangos y rhannau y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad o Ddiogelwch Cefnffyrdd rhwng Machynlleth a Phenegoes. Ffynhonnell: Lluniwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad gan ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd o wefan Traffig Cymru [ar 23 Tachwedd 2016]

Daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylid cadw at y terfyn cyflymder o 30mya ar gyfer dechrau'r parth 30mya ym Machynlleth hyd at gyffordd y Cloc ar yr A489, ond y dylid gosod terfyn cyflymder rhan-amser o 20mya y tu allan i Ysgol Gynradd Sirol Machynlleth fel rhan o raglen dreigl 2015/16, Llwybrau Diogel at Ysgolion ar Gefnffyrdd (gweler isod). Yn ail, nododd yr adolygiad y dylid cadw at y terfyn cyflymder o 60mya ar gyfer diwedd y parth 40mya ym Mhenegoes hyd at ddechrau'r parth 30mya ym Machynlleth ar yr A489, ac y dylid cynnal astudiaeth fanwl fel rhan o raglen o waith peirianyddol sy'n flaenoriaeth, gan ddechrau yn 2019/20 ar y cynharaf. Yn olaf, daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylid cadw at y terfyn cyflymder o 40mya ar gyfer dechrau'r parth 40mya ym Mhenegoes hyd at ddiwedd y parth hwnnw ar yr A489.

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i “gyflawni'r canlyniadau sydd wedi'u cyflwyno yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru” hyd at 2020 a thu hwnt, gan gyflawni rhaglen o welliannau diogelwch ffyrdd ar gyfer ysgolion ar gefnffyrdd.  Yn y wybodaeth ddiweddaraf ysgrifenedig a roddwyd i holl Aelodau'r Cynulliad ynghylch Llwybrau Diogel at Ysgolion ar Gefnffyrdd ar 1 Hydref 2015, cadarnhaodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, fod 41 ysgol ychwanegol a allai gael terfyn cyflymder rhan-amser o 20mya fel rhan o raglen dreigl tair blynedd, ynghyd â darpariaeth o £4.5 miliwn i gyflawni'r gwaith. Roedd yr atodiad cynorthwyol a ddaeth ynghlwm â'r wybodaeth ddiweddaraf yn nodi bod creu parth â therfyn cyflymder rhan-amser o 20mya ger Ysgol Gynradd Sirol Machynlleth yn flaenoriaeth yn 2015/16.

Mae'r llythyr at y Cadeirydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghylch y ddeiseb hon yn cyfeirio at gasgliad yr Adolygiad o Ddiogelwch Cefnffyrdd a nododd fod terfyn cyflymder yr A489 ger Penegoes fel y mae ar hyn o bryd yn addas ac y dylid ei gadw fel y mae. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod diogelwch a dibynadwyedd y rhwydwaith cefnffyrdd yn un o'i brif flaenoriaethau, ac y caiff manylion y ddeiseb hon eu hystyried fel rhan o'r gwaith sy'n cael ei gynnal i adolygu data am ddamweiniau a phennu'r angen am welliannau yn niogelwch ffyrdd yn gyson.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw’r mater hwn wedi cael ei ystyried eto gan y Cynulliad.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi.   Fodd bynnag, dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.